Home

News

Sports and Events

History

Galleries

The Blaenau Project

Ocsiwn arbennig i godi arian tuag at glwb pêl-droed y Blaenau


Gyda Chlwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau yn dathlu 25mlynedd ers ei sefydlu, mae cyfres o ddigwyddiadau yn cael ei drefnu i nodi'r achlysur ac i godi arian i goffrau'r Clwb rhwng rwan a diwedd y tymor.


Y cyntaf o rain fydd Ocsiwn ar nos Lun 13eg o Ragfyr yn y Clwb Rygbi ym Mlaenau Ffestiniog, pan fydd yno gyfle i chi brynu anrhegion go arbennig ar gyfer hosan nadolig dilynwyr brwd y bel crwn yn eich ty chi.


Ymysg yr eitemau fydd ar werth fydd pêl wedi ei lofnodi gan garfan Everton, crys wedi ei lofnodi gan garfan Birmingham (yn cynnwys Robbie Savage o Gymru), cerdyn wedi ei lofnodi gan garfan Chelsea, tocynnau i 4 fynd o amgylch stadiwm newydd ysblenydd Manchester City, tocynnau ar gyfer gemau Aston Villa, Ipswich Town ac amryw o glybiau eraill ym Mhencampwriaeth Coca Cola.


Mae'r Ocsiwn yn disgwyl rhoddion ar gyfer eu gwerthu gan sawl un o’r clybiau mawr yn cynnwys Arsenal a Lerpwl yn ogystal â rhoddion gan unigolion yn cynnwys John Hartson a chyn rheolwr y tîm cenedlaethol, Mark Hughes.


Bydd yr Ocsiwn yn dechrau am 7.30 yr hwyr a phris mynediad fydd £1 yn cynnwys raffl. Os ydych yn dymuno cynnig am rhai o’r nwyddau cyn y noson, gallwch wneud hynny dros y ffon unrhyw adeg ar ôl 6 o’r gloch y nos drwy gysylltu â Gwilym 831930 neu Dafydd 830678.


Cewch ragor o wybodaeth hwyrach ymlaen yn y tymor yma am y digwyddiadau eraill sydd ar y gweill i ddathlu pen-blwydd y clwb yn 25 oed.